Dathlu 100 Mlynedd o'r Clwb Rhedeg a Aml-chwaraeon
Sefydlwyd y clwb gan Arthur Ernest Williams dan yr enw Clwb YMCA Mhort Talbot Harriers. Cawsant safle o’r trydydd clwb gorau yng Nghymru am flynyddoedd lawer.
Fel un o'r clybiau athletau gorau yng Nghymru, enillodd PTH Bencampwriaeth YMCA Cymru chwe gwaith ac enillodd Isaac O'Brien Bencampwriaeth Marathon Cymru yn 1937.
Diolch i Glwb Rygbi Aberafan, defnyddiodd y Harriers Maes Athletau Talbot ar gyfer eu hyfforddiant a'u cystadlaethau, a chynhaliodd Pencampwriaethau Uwch Cymdeithas Athletau Amatur Menywod yno ym 1948.
Roedd nifer o athletwyr yn cystadlu yn ystod misoedd yr haf ac yn chwarae gemau pêl yn ystod y gaeaf. Enillodd John Collins Bencampwriaeth Cymru am 440 llath yn 1952.
Ym 1961 newydodd enw’r clwb i ‘Port Talbot Harriers & Athletic Club’. Enwyd Isaac O'Brien fel athletwr mwyaf llwyddianus y clwb oherwydd ei lwyddiant a'i fuddugoliaethau yn y bencampwriaeth.
Enillodd aelodau ieuenctid y clwb gydnabyddiaeth ryngwladol ym 1976. Cynrychiolodd Pamela Walker a David Morgan Gymru gan ennill deitlau 200m yr un.
Ffynnodd llwyddiant yr ieuenctid gyda perfformiadau wych ym mhencampwriaethau trawsglad, trac a gemau rhyngwladol. Daeth Sian Morris i fod yr aelod rhynwladol dim DU cyntaf y clwb.
Enillodd y clwb Adran 5 o Gynghrair Trac a Cae Cymru a chefwyd dyrchafiad i Adran 1 o Gynghrair Trawsgwlad Gwent. Ym 1997, death Tony Holland i fod yr unig aelod DU rhyngwladol llawn y clwb.
Fe wnaeth tîm y dynion ennill Cynghrair Trac a Cae Meistri Cymru yn 2002. Tyfodd tîm y merched yn sylweddol, a enillon nhw Adran 1 o Gynghrair Trawsglad Gorllewin Glam yn 2009.
Tyfodd y clwb yn gyflym, gan drawsnewid yn glwb aml-chwaraeon a chynnal eu digwyddiadau rasio eu hunain. Cododd y clwb dŷ clwb newydd sbon a agorodd yn 2018.
Fel clwb rhedeg ac aml-chwaraeon llewyrchus, mae PTH yn dathlu ei ganmlwyddiant yng nghanol pandemig byd-eang a welodd lawer o darfu ar hyfforddiant a rasys.